EGWYDDORION ANSAWDD ARTWORKS CYMRU

Crëwyd yr Egwyddorion Ansawdd gan artistiaid a sefydliadau sy'n gweithio yn y celfyddydau cyfranogol yng Nghymru. Dechreuodd y broses pan ddaeth grŵp at ei gilydd i ofyn cwestiynau fel: beth mae ' ansawdd Safon rhywbeth o'i fesur yn erbyn pethau eraill o fath tebyg; graddfa rhagoriaeth rhywbeth ' yn ei olygu pan fyddwch yn creu gwaith gyda phobl Pwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect neu raglen ? Sut fyddwn ni'n gwybod pan fyddwn yn gweld / teimlo / clywed ansawdd? Beth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau ansawdd?

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, datblygwyd Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru i geisio rhoi strwythur i atebion rhai o'r cwestiynau yma.

Mae'r Egwyddorion Ansawdd yn rhoi ffordd i siarad am ansawdd y gall pawb sy'n gwneud celfyddydau cyfranogol Unrhyw brosiectau neu raglenni celfyddydol ar gyfer cyfranogwyr heb fod yn broffesiynol a gaiff eu harwain neu eu cynnal gan artistiaid proffesiynol ei defnyddio. Mae artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn defnyddio'r egwyddorion ansawdd yn eu gwaith bob dydd, a hefyd yn eu rhannu gyda'u partneriaid.

Maen nhw yno i'ch helpu i feddwl am sut i wneud eich gwaith da yn well byth, i ddangos gwerth yr ymarfer yma, ac i wneud yn siŵr fod cyfranogydd Y person sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau cyfranogol yn cael y profiadau gorau posibl.

Gwyliwch y fideo i gael cyflwyniad i'r Egwyddorion Ansawdd:

Sut i ddefnyddio'r adnodd yma

  • Darllenwch am yr Egwyddorion islaw ac yna meddwl am yr hyn y dymunwch ganolbwyntio arno yn nhermau egwyddorion eich prosiect Gweithgaredd celfyddydau cyfranogol o fewn cyfnod penodol neu rhaglen Gweithgaredd celfyddydau cyfranogol parhaus gwaith.
  • Gallwch weithio drwyddynt neu ganolbwyntio ar egwyddorion penodol sy'n taro tant gyda chi. Chi sydd i benderfynu.
  • Ar gyfer pob egwyddor, awgrymwn dangosyddion Gwybodaeth wedi'i diffinio'n dda sy'n dangos sut mae prosiect neu raglen yn perfformio allweddol o ansawdd, ond os dymunwch hynny, dylech greu eich dangosyddion pwrpasol eich hun yn eich gofod, y gallwch un ai eu hanfon fel e-bost i'ch hunan neu ddefnyddio ein dalen gwaith i fapio eich ffordd drwyddynt.
  • Mae hefyd amrywiaeth o ddulliau i'ch helpu i roi eich dangosyddion ansawdd ar waith, ac astudiaethau achos fel y gallwch weld sut aeth pobl eraill o'i chwmpas hi.