Digwyddiad Partneriaeth ArtWorks Cymru Partnership Event

Date: 06/15/2021 | Category: Events


Cynhelir digwyddiad olaf rhaglen gyfredol ArtWorks Cymru 2019-21 ddydd Mawrth 29 Mehefin am 10.00am – 1.00pm ar Zoom.

Am y Digwyddiad

Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddala lan, ac i rannu prosiectau sydd ar y gweill gyda ffrindiau a chyd-weithwyr ar draws y celfyddydau cyfranogol yng Nghymru.

Byddwn yn rhannu profiadau cynllun peilot Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru, gyda chyfraniadau gan rai o’r hyfforddwyr, artistiaid a’r sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun datblygu artistiaid hwn. Bwriad y cynllun peilot yw cefnogi artistiaid cyfranogol llawrydd yng Nghymru i ddatblygu eu hymarfer ac mae’n canolbwyntio ar ddialog lle gall yr hyfforddai ymchwilio eu uchelgeisiau, anghenion a photensial.

Byddwn hefyd yn trafod anghenion y celfyddydau cyfranogol a beth hoffech chi ei weld wrth i raglen ArtWorks Cymru symud ymlaen i’r cam nesaf. Hyd yn hyn, mae partneriaeth ArtWorks Cymru wedi canolbwyntio ar ddatblygu ymarfer, cefnogi datblygiad proffesiynol artistiaid ac eiriol dros y celfyddydau cyfranogol. Rydym ni eisiau clywed gan sefydliadau, artistiaid a phob math o grwpiau lleol a chymunedol wrth i ni gynllunio prosiectau’r dyfodol, a’r meysydd sydd angen sylw.

Bydd yna ambell weithgaredd creadigol, yn ogystal!

Hygyrchedd
Bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael. Gofynnwn i chi roi gwybod os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd eraill, fel y gallwn eich cynorthwyo.

Cyfieithu
Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog, a darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Lleoliad
Cynhelir y digwyddiad ar Zoom. Byddwn yn anfon manylion mewngofnodi Zoom unwaith y byddwch wedi cofrestru i ymuno â’r sesiwn.

Tocynnau
I sicrhau’ch lle, cliciwch yma.

The final partnership event of the current ArtWorks Cymru 2019-21 programme will take place online on Tuesday 29 June at 10.00am – 1.00pm.

About the event

The event will be an opportunity to catch up, and to share current projects and plans with friends and colleagues across the participatory arts in Wales.

We will be sharing experiences of the Wales Artist Coaching Pathway pilot, with contributions from some of the coaches, artists and organisations that have been a part of this artist development scheme. The pilot programme aims to support freelance participatory artists in Wales to develop their practice and focuses on dialogue in which the coachees can explore their aspirations, needs and potential.

We will also be discussing the needs of the participatory arts sector and what you would like to see as the ArtWorks Cymru programme moves forward to the next stage. So far, the ArtWorks Cymru partnership has focused on developing practice, supporting the continuing professional development of artists and advocating for the participatory arts. We’d like to hear from organisations, artists and local and community groups as we start to plan for future programmes and think about the areas that these could focus on.

There will also be a couple of creative activities of course!

Access
BSL interpretation will be available. Please let us know if you have any other access needs that we can assist with.

Translation
This will be a bilingual event and simultaneous translation Welsh-English will be provided.

Location
This event will be held on Zoom and login details will be sent to you once you have registered to join the session.

Booking
To book your place, click here.