ArtWorks Cymru Quality Principles Booklet

Date: 02/11/2019 | Category: Resources, Publications, Quality, Toolkits


Dechreuodd y daith i greu’r egwyddorion yma gyda thrafodaeth fawr yng Nghaerfyrddin.

Fe wnaethom ofyn llawer o gwestiynau - beth mae "ansawdd" yn ei olygu pan fyddwch yn creu gwaith gyda phobl? Sut fyddwn ni’n gwybod pan fyddwn yn gweld / teimlo / clywed ansawdd? Beth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau ansawdd? Nid oedd gennym mewn gwirionedd fframwaith i’n helpu i strwythuro ein sgwrs.

Gofynnodd Cyngor Celfyddydau Cymru i ni greu Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru er mwyn symud y sgwrs ymlaen. Byddant yn rhoi ffordd i siarad am ansawdd y gall pawb sy’n gwneud celfyddydau cyfranogol ei defnyddio.

Disgwyliwn i artistiaid a sefydliadau celf fod y prif rhanddeiliad sy’n defnyddio’r egwyddorion ansawdd, ond gobeithiwn y byddwch yn eu rhannu gyda’ch partneriaid ac yn gwneud defnydd ymarferol ohonynt.
Cawsant eu cynllunio i’ch helpu i feddwl am sut i wneud eich gwaith da yn well byth, i ddangos gwerth yr ymarfer yma, ac i wneud yn siwr fod cyfranogydd yn cael y profiadau gorau posibl.

LAWRLWYTHO EGWYDDORION ANSAWDD ARTWORKS CYMRU PDF

The journey to create these principles started with a big discussion in Carmarthen.

We asked lots of questions - what does ‘quality’ mean when you are creating work with people? How do we know when we see / feel / hear quality? What do we need to do to ensure quality? We didn’t really have a framework to help us structure our conversation.

Arts Council of Wales asked us to create the ArtWorks Cymru Quality Principles to move the conversation on. They will give you a way to talk about quality that can be used by everyone who is making participatory arts.

We expect artists and arts organisations to be the main stakeholders that use the quality principles, but we hope you will share them with your partners and use them in practice.

They are designed to help you to think about how to make the good work you do even better,
to show the value of this practice, and to make sure participants get the best experiences possible.

DOWNLOAD ARTWORK CYMRU QUALITY PRINCIPLES PDF