Galwad Agored - Call Out

Date: 04/20/2021 | Category: News


Galwad Agored: Gweithwyr llawrydd neu gwmnïau i greu fideo rhagarweiniol, ffeithlun a ffilmiau byrion

Mae partneriaid ArtWorks Cymru yn frwd i ddatblygu rhai adnoddau newydd er mwyn rhannu dulliau o weithio gyda’r Egwyddorion Ansawdd, cynnig cymorth ymarferol i’w defnyddio wrth gynllunio neu gynnal gweithgareddau, a rhannu’r hyn a ddysgwyd yn y cynllun peilot Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru.

Bwriedir cyhoeddi’r adnoddau newydd ar wefan ArtWorks Cymru, ar gael i bawb eu defnyddio, ac i ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael eisoes. Mae’r prosiect yma’n rhan o adolygiad ehangach o’r wefan er mwyn creu llwybrau syml a chlir i ddod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ymarferol ar weithio yn y maes cyfranogol.

 

Fideo rhagarweiniol a ffeithlun

Dymuna ArtWorks Cymru gomisiynu fideo, yn cynnwys darluniau neu animeiddio, fydd yn cyflwyno pobl i weithio gyda’r Egwyddorion Ansawdd. Anelir y fideo at gynulleidfa o artistiaid a sefydliadau neu grwpiau sydd yn cynnal gweithgareddau celfyddydol cyfranogol mewn amrywiaeth o leoliadau, neu sydd efallai newydd ddechrau ar y math yma o waith. 

Mae’r comisiwn yn cynnwys creu ffeithlun o’r 9 Egwyddor Ansawdd, a fydd yn rhan o’r fideo ac a fydd ar gael i’w ddefnyddio fel ased annibynnol yn ogystal. Bydd y ffeithlun yn cyflwyno pob un o’r 9 Egwyddor Ansawdd mewn ffordd weledol, ynghyd â thestun syml i ddisgrifio pob egwyddor.

Amserlen: I’w gwblhau erbyn 31 Mai 2021

Cyllideb: £950 yn cynnwys TAW

 

Ffilmiau Byrion

Dymuna ArtWorks Cymru greu casgliad o ffilmiau byrion i gyflwyno cynllun peilot Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru ac i ddysgu mwy am rai o’r prosiectau a gynhaliwyd gan y partneriaid sydd wedi bod yn defnyddio’r Egwyddorion Ansawdd. Bydd y ffilmiau yn seiliedig ar gyfweliadau, ac yn cynnwys artistiaid a chyfranwyr y rhaglenni.

Amserlen: I’w gwblhau erbyn 7 Mehefin 2021.

Cyllideb: £750 yn cynnwys TAW.

Cynigir costau teithio ar gyfer ffilmio’r cyfweliadau ar leoliad, yn seiliedig ar gytundeb o flaen llaw gydag ArtWorks Cymru.

 

Sut i fynegi diddordeb

I fynegi diddordeb mewn naill un o’r cyfleoedd yma, anfonwch eich CV a/neu ddolen i bortffolio neu esiamplau o’ch gwaith erbyn 5.00pm ddydd Gwener 30 Ebrill 2021 at:

Elinor Robson, Rheolwr Partneriaeth ArtWorks Cymru

artworkscymru@artsactive.org.uk

Cliciwch yma i weld y pecyn gwybodaeth llawn.

Call-out: freelancers or companies to create an explainer video, infographic and short films

The ArtWorks Cymru partners have identified a range of new tools and resources aimed at sharing ways of working with the Quality Principles, providing practical tools to use when planning and delivering activity, and sharing learning from the pilot Wales Artist Coaching Pathway.

These tools and resources will be published on the ArtWorks Cymru website, available for anyone to access, and will add to the resources already in place. This will be part of a wider website review aimed at creating simple pathways for finding information and practical guidance on working in participatory settings.

 

Explainer video and infographic

ArtWorks Cymru is looking to commission an illustrated or animated video introducing people to working with the Quality Principles. The video will be aimed at artists and organisations or groups who deliver participatory arts activities in a variety of settings, or who may be new to this type of work. 

This commission includes creating an infographic of the 9 Quality Principles, which should be incorporated into the video and which can also be used as a standalone asset. This will present each of the 9 Quality Principles in a visual way, with simple text to explain each principle.

Timetable: To be completed by 31 May 2021.

Budget: £950 including VAT

 

Short Films

ArtWorks Cymru is looking to create a selection of short films to showcase the pilot Wales Artist Coaching Pathway programme and to explore the projects that have been delivered by partners using the Quality Principles. All films will be interview-based, featuring artists and participants in these programmes.

Timetable: To be completed by 7 June 2021.

Budget: £750 including VAT.

Travel expenses to film interviews in person will be offered and based on prior agreement with ArtWorks Cymru.

 

How to apply

To express your interest in either of these opportunities, please send your cv and/or a link to a portfolio or showreel of your work by 5.00pm on Friday 30 April 2021 to:

Elinor Robson, ArtWorks Cymru Partnership Manager

artworkscymru@artsactive.org.uk

To view the full information pack click here.