Participatory Arts - Capturing the Learning / Beyond the Lockdown

Date: 05/19/2020 | Category: Events


CELFYDDYDAU CYFRANOGOL – CIPIO’R DYSGU A MEDDWL TU HWNT I’R CYFYNGIADAU SYMUD

Mewn ymateb i’r cyfyngiadau symud a achoswyd gan COVID-19, mae llawer o sefydliadau celf wedi mynd â’u gwaith ar-lein, gan rannu cynnwys i gynulleidfaoedd ei weld yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae creu ymgysylltiad cyfranogol ar-lein yn llawer mwy o her ac, fel sector sydd wedi arfer bod wyneb i wyneb â phobl yn eu hymarfer, mae’n amlwg fod y cyfyngiadau presennol yn newid natur ein gwaith yn sylweddol.

Yn dilyn sgwrs hanfodol ar y cyfryngau cymdeithasol dan arweiniad Guy O’Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogiad, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a agorodd drafodaeth ar sut y gallwn gyflenwi celfyddydau cyfranogol mewn modd effeithlon, mae ystod o bartneriaid yn cydweithio i arwain trafodaethau Zoom ar gyfer y sector lle gallwn siarad am effaith y cyfyngiadau symud ar ein gwaith a chydweithio’n greadigol i feddwl tu hwnt i’r cyfyngiadau symud.

Cipio’r Dysgu

Bydd y cyfarfodydd Zoom hyn yn ymchwilio sut gallwn gasglu’r dysgu gan sefydliadau ac artistiaid sy’n cyflenwi prosiectau ar hyn o bryd. Byddwn yn ymchwilio pa ddulliau sy’n gweithio’n dda, yr hyn rydym yn ei ddysgu drwy’r profiad hwn a sut ydym yn addasu ein harferion gwaith.

Meddwl Tu Hwnt i’r Cyfyngiadau Symud

Bydd y cyfarfodydd Zoom yma’n ymchwilio sut byddwn yn meddwl tu hwnt i’r cyfyngiadau symud. Byddwn yn ymchwilio beth allai’r dyfodol fod, yr hyn y medrem ei gadw o’n profiadau ar-lein, a sut i fyw gyda dyfodol ansicr.

Cofrestrwch yma i ymuno â’r cyfarfodyddc drwy ddolenni eventbrite. Anfonir manylion mewngofnodi Zoom atoch unwaith y byddwch wedi cofrestru. Mae Artworks Cymru yn gweithio gyda phob partner i gadw nodiadau o’r trafodaethau.

Mae’r partneriaid dilynol wedi cydweithio i ddod â’r gyfres hon o gyfarfodydd Zoom i chi:

ArtWorks Cymru, Gwanwyn, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Tanio, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru, Rhaglen Hyfforddiant Cymru Gyfan, Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni wrth i ni ddechrau hwylio ein ffordd ar y daith anodd hon a chanfod ein ffordd i ddyfroedd tawelach. Os hoffech drefnu trafodaeth eich hun, cysylltwch â guy@ndcwales.co.uk os gwelwch yn dda.

Capturing the Learning

These Zoom meetings will explore how we capture the learning from organisations and artists who are currently delivering projects. We’ll explore what methods are working well, what are we learning through this experience, and how we are adapting  our working practices.

 

DATE

HOST / FOCUS

LINK

11am - 12.30pm

Tuesday 21st July

WAWHN Cymru / Arts and Health  

 

   
     
 

Thinking Beyond the Lockdown

These Zoom meetings will explore how we think beyond the lockdown. We’ll explore what the future might hold, what we might keep from our online experiences, and how we live with an uncertain future.

DATE

HOST / FOCUS

LINK

4pm - 5.30pm Thursday 16th July

Arts Connection & Impelo / Rural Arts  
     
     
 

In response to the lockdown triggered by COVID-19, many arts organisations have taken their work online, sharing content for audiences to view for free. However, creating participatory engagement online is much more challenging and, as a sector  used to being face to face with people in their practice, it’s clear that the current restrictions change the nature of our work substantially.

Following a vital conversation on social media led by Guy O’Donnell, Learning and Participation Producer, National Dance Company Wales which opened a discussion on how we can deliver participatory arts effectively, a range of partners are collaborating to lead Zoom discussions for the sector where we can talk about the impact of the lockdown on our work and  work creatively together to think beyond the lockdown.

Please register to join the meetings via the eventbrite links. Zoom logins will be sent to you once you have registered. Artworks Cymru is working with all partners to notate discussions.

The following partners have collaborated together to bring you this series of Zoom meetings:

ArtWorks Cymru, Gwanwyn, National Dance Company Wales, Tanio, Voluntary Arts Wales, Wales Wide Training Programme, Youth Arts Network Cymru

We hope you can join us as we start to navigate this tricky journey and find our way to calmer waters. If you would like to host a discussion yourself, please contact guy@ndcwales.co.uk