Quality Principles Workshop - Cardiff

Date: 09/28/2017 | Category: Events


GWEITHDY EGWYDDORION ANSAWDD ARTWORKS CYMRU

Cafodd Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru eu creu yn 2016 gan ymarferwyr a chomisiynwyr yn gweithio yn y sector celfyddydau cyfranogol yng Nghymru. Mae'r Egwyddorion Ansawdd yn cynnig ffordd i siarad am ansawdd y gall pawb sy'n gwneud celfyddydau cyfranogol ei defnyddio.

Comisiynwyd Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae partneriaid ArtWorks Cymru yn eu sefydlu yn eu gwaith prosiect i gefnogi cynllunio, monitro a gwerthuso. Rydym yn awyddus i ledaenu'r gair a chael cynifer o bobl ag sydd modd i'w defnyddio.

Dan arweiniad Rhian Hutchings, Rheolwr Partneriaeth ArtWorks Cymru, bydd y sesiwn yn ymchwilio beth mae ansawdd yn ei olygu i chi, sut y gallwch ddefnyddio'r Egwyddorion Ansawdd i gefnogi'r gwaith yr ydych yn ei ddatblygu a rhoi cyfle i chi ystyried prosiect cyfredol neu ddyfodol drwy lygad Egwyddorion Ansawdd.

Bydd y sesiwn yn parhau am 2awr 30 munud. 

Amser: 2pm - 4.30pm

Dyddiad: Dydd Mercher 25 Hydref 2017

Lleoliad: WCVA, Bae Caerdydd

Noddir y sesiwn gan Voluntary Arts Wales

I archebu eich lle, cofrestrwch drwy Eventbrite:

DOD YN FUAN

Cysylltwch â Rhian Hutchings ar 07966 450299 neu e-bost rhianhutchings@outlook.com os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw ymholiadau am y sesiwn.

ARTWORKS CYMRU QUALITY PRINCIPLES WORKSHOP

The ArtWorks Cymru Quality Principles were created in 2016 by practitioners and commissioners working in the participatory arts sector in Wales. The Quality Principles offer a way to talk about quality that can be used by everyone who is making participatory arts.

The ArtWorks Cymru Quality Principles were commissioned by Arts Council of Wales, and ArtWorks Cymru partners are embedding them in their project work to support planning, monitoring and evaluation. We are keen to spread the word and get as many people using them as possible.

Led by ArtWorks Cymru Partnership Manager Rhian Hutchings, this session will explore what quality means to you, how you can use the Quality Principles to support the work you are developing, and give you an opportunity to consider a current or future project through the lens of the Quality Principles.

The session will last 2hr 30. 

Time: 2pm – 4.30pm

Date: Wednesday 25th October 2017

Venue: WCVA, Cardiff Bay

This session is hosted by Voluntary Arts Wales.

To Book your place, please register via Eventbrite:

LINK COMING SOON

If you have any queries about the session please contact Rhian Hutchings on 07966 450299 or email rhianhutchings@outlook.com