ArtWorks Cymru Learning Groups

Date: 05/11/2015 | Category: News


Please scroll down for English Version

Grwpiau Dysgu ArtWorks Cymru

Bydd ArtWorks Cymru yn cefnogi pum Grŵp Dysgu ledled Cymru fydd yn rhoi cyfle i artistiaid ymchwilio ymarfer mewn ystod o gyd-destunau cyfranogol.

Mae ArtWorks Cymru yn rhaglen dwy flynedd a gaiff ei harwain gan bartneriaeth o 26 o sefydliadau celfyddydol ac artistiaid o bob rhan o Gymru. Nod y rhaglen yw datblygu ymarfer artistig mewn gosodiadau cyfranogol a chreu sector sy'n rhwydweithio ac yn fwy proffesiynol, yn dilyn Cynllun Arbennig ArtWorks Sefydliad Paul Hamlyn.

“Nid gweithgaredd eilradd yw hyn - mae newid ac effeithio ar fywydau yn rhodd, ac yn un a all gynnig gyrfa hyfyw, gan gynnig cyfoethogi a llwyddiant creadigol." Dianne Hebb, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Fel y prosiect cyntaf, bydd ArtWorks Cymru yn cefnogi pum Grŵp Dysgu ledled Cymru. Mae'r Grwpiau Dysgu yn rhwydweithiau o artistiaid a ddaw ynghyd i ymchwilio ymarfer mewn cyd-destun cyfranogol. Bydd y Grwpiau Dysgu dilynol yn cwrdd dros y 18 mis nesaf:

  • Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru - ymchwilio celfyddydau ieuenctid
  • Rhwydwaith Celfyddydau Carchardai Cymru - ymchwilio'r celfyddydau mewn gosodiadau cyfiawnder troseddol
  • Celf ar Bresgripsiwn - ymchwilio'r celfyddydau mewn gosodiadau gofal iechyd lleol
  • Gweriniaeth y Dychymyg - ymchwilio mentora rhwng artistiaid profiadol ac artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfa
  • Celf-Able - ymchwilio sut y gall artistiaid anabl wneud gwaith gyda'i gilydd

Bydd ArtWorks Cymru hefyd yn cyflwyno dau gylch o Gyllid Sbarduno, gan geisio annog cydweithio ar draws y sector a syniadau blaengar i ffynnu. Bydd cynhadledd derfynol ym mis Tachwedd 2016 yn dangos y gweithgaredd a fu ac yn dod â'r sector ynghyd i rannu ymarfer.

“Mae angen i ni feithrin amgylchedd lle mae artistiaid a sefydliadau celf yn rhannu, cyfnewid a dysgu gan y goreuon o blith ein hymarferwyr celfyddydau cyfranogol proffesiynol, ond sydd hefyd yn caniatáu arbrofi, arloesi a gwthio ffiniau. Ac os gwelir fod ArtWorks yn flaenllaw wrth ddod â'r uchelgeisiau hyn i ffrwyth, bydd yn wir wedi llwyddo.” Diane Hebb, Cyngor Celfyddydau Cymru.

ArtWorks Cymru will support five Learning Groups across Wales offering artists the chance to explore practice in a range of participatory contexts.

ArtWorks Cymru is a two year program led by a partnership of 26 arts organisations and artists from across Wales. The program seeks to develop artistic practice in participatory settings, and aims to create a more professional and networked sector, following on from the Paul Hamlyn Foundation ArtWorks Special Initiative.

“This is no second class activity - to change and affect lives is a gift, and one that can provide a viable career, offering creative enrichment and success.” Diane Hebb, Arts Council of Wales.

As the first project, ArtWorks Cymru will support five Learning Groups across Wales. The Learning Groups are networks of artists who will come together to explore practice in participatory contexts. The following Learning Groups will be meeting over the next 18 months:

  • Youth Arts Network Cymru - exploring youth arts
  • Wales Prison Arts Network - exploring arts in criminal justice settings
  • Art on Prescription - exploring arts in local healthcare settings
  • The Republic of the Imagination - exploring mentoring between experienced and early career artists
  • Celf-Able - exploring how disabled artists make work together

ArtWorks Cymru will also deliver two rounds of Seed Funding, seeking to encourage cross sector collaboration and innovative ideas to flourish. There will be a final conference in November 2016, showcasing the activity that has taken place and bringing the sector together to share practice.

“We need to foster an environment in which artists and arts organisations share, exchange and learn from the best of our professional participatory arts practitioners, but which also allows for experimentation, innovation, and the pushing of boundaries. And if ArtWorks can be seen to be at the forefront in bringing these ambitions to fruition, it will have succeeded indeed.” Diane Hebb, Arts Council of Wales.