Daeth grŵp o sefydliadau ac artistiaid at ei gilydd yn ystod 2019-21 i rannu profiadau o weithio gyda'r Egwyddorion Ansawdd. Dewisodd aelodau o'r grŵp prosiectau neu gyd-destunau er mwyn rhoi'r Egwyddorion Ansawdd ar brawf.
Cyfarfu'r grŵp 8 gwaith a bu trafodaeth fanwl o'r ffyrdd amrywiol o ddefnyddio'r Egwyddorion Ansawdd ar gyfer cefnogi gwaith, beth oedd yn gweithio'n dda a beth sydd angen ei ddatblygu, a pha adnoddau ychwanegol oedd ei angen. Darllenwch am eu profiadau yn yr astudiaethau achos islaw.
Gwyliwch Siân Elin Williams o Theatr Genedlaethol Cymru yn sôn am eu profiadau nhw o ddefnyddio'r Egwyddorion Ansawdd.
Canolfan Mileniwm Cymru & Phlant y Cymoedd - Radio Platfform
Yma mae Alan Humphreys, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn dweud wrthym am ei brofiad o ddefnyddio’r Egwyddorion Ansawdd ar y prosiect Radio Platfform.
Canolfan Mileniwm Cymru & Sparc - Powerful Interventions
Mae Miranda Ballin, Cyfarwyddwr Artistig Sparc, ac Alan Humphreys, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn dweud wrthym am ddefnyddio’r Egwyddorion Ansawdd ar brosiect partneriaeth dan arweiniad pobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf.
Amanda Wells sy’n cyflwyno dull Celf Able, sefydliad celfyddydol sy’n cael ei arwain gan yr anabl yn Sir Drefaldwyn, o ddefnyddio’r Egwyddorion Ansawdd.
Celfyddydau GCT (Gweithredu Caerau Trelai)
Nic Parsons a Becky Matyus sy’n sôn am eu profiad o ddefnyddio’r Egwyddorion Ansawdd ar brosiect celf weledol cyfranogol, cynhwysol yn y Dusty Forge yng Nghaerdydd.
Clary Saddler, Cyd-gyfarwyddwr Forget-Me-Not-Productions, sy’n esbonio sut y maent wedi defnyddio’r Egwyddorion Ansawdd trwy eu prosesau cynllunio a gwerthuso.
Kate Strudwick sy’n dweud wrthym am weithio mewn partneriaeth i gyflawni prosiect Siopa Broad Street ym Mlaenafon.
Yr artist a'r gwneuthurwr ffilm Kyle Legall sy'n sôn am ei brofiad o ymgyfarwyddo â'r Egwyddorion Ansawdd wrth weithio ar ei brosiect Cardiff 1919: Riots Redrawn.
Mae Heloise Godfrey-Talbot, Darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru, yn trafod sut y mae’r Egwyddorion Ansawdd yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr ar y cwrs gradd BA(Anrh) Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig.
Siân Elin Williams, Cydlynydd Cyfranogi, sy’n sôn am ddefnyddio’r Egwyddorion Ansawdd wrth ddatblygu prosiect creadigol i ddyfeisio a chwarae gêm ddrama wrth ddysgu Cymraeg.