Beth mae 'ansawdd' yn ei olygu pan fyddwch yn creu gwaith gyda phobl?
Profiadau sefydliadau ac artistiaid wrth defnyddio'r Egwyddorion Ansawdd.
Mae ArtWorks Cymru yn rhaglen sy'n datblygu ymarfer mewn gosodiadau cyfranogol, a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid ar wahanol gamau o'u gyrfa yn gweithio mewn gosodiadau cyfranogol yng Nghymru.
Mae rhaglen 2019-2021 ArtWorks Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu adnoddau yn ymwneud ag Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru, datblygu model hyfforddi ar gyfer artistiaid llawrydd sy'n gweithio yn y maes cyfranogol a chynnig hyfforddiant ar gyfer partneriaeth ArtWorks Cymru.
Ein tudalen Facebook boblogaidd yw un o'r ffyrdd gorau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a newyddion y funud y'i cyhoeddir.
Nid yw'r cyfan am ArtWorks Cymru chwaith - caiff newyddion a digwyddiadau gan bartneriaeth ArtWorks Cymru hefyd eu rhannu, yn ogystal â phapurau ymchwil newydd, blogiau, cyfleoedd swyddi a beth sy'n digwydd ym myd celfyddydau cyfranogol.
Os ydych yn angerddol am gyfranogiad yn y celfyddydau fel artist, comisiynydd neu gyfranogydd, neu eisiau gwybod mwy, ewch ymlaen a chlicio'r botwm i ymuno â ni!
Mae gan ArtWorks Cymru gyfrif Twitter hefyd — @ArtWorksCymru — lle rhoddwn fwy newyddion a straeon am y celfyddydau creadigol yng Nghymru. Dilynwch ni ar Twitter i gael y diweddaraf.
Mae ystod o adnoddau ar gael yma'n ymwneud ag arfer cyfranogol, ansawdd, gwerthuso a mwy. Cysylltwch â ni os daethoch ar draws adnodd da neu fod gennych un eich hunan yr hoffech ei rannu.