Artistig a Phroffesiynol

Mae'r gelf yn ganolog i ymarfer celfyddydau cyfranogol, ac mae'r egwyddor yma'n gwneud ymrwymiad i hyn. Mae hefyd yn amlinellu fod artistiaid yn weithwyr proffesiynol yn yr un ffordd â gweithwyr cymdeithasol, cwnselwyr neu feddygon. Dylent fod â gwybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol yn ogystal â phroffil yn eu maes.

Mae dangosyddion allweddol yn cynnwys:

  • Mae artistiaid yn aelodau o sefydliad aelodaeth addas e.e. People Dancing, Sound Sense, Cymdeithas Genedlaethol Awduron mewn Addysg
  • Mae gan artistiaid ymarfer celfyddydol ffyniannus eu hunain
  • Mae artistiaid yn dilyn datblygiad a hyfforddiant proffesiynol parhaus
  • Mae prosiectau mewn cyd-destunau neilltuol yn ymwneud â hyfforddiant i gefnogi artistiaid wrth gyflenwi

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page