Perthnasol a Chynhwysol

Mae ymarfer celfyddydau cyfranogol yn gweithio gyda phobl mewn gwahanol sefyllfaoedd ac mae ymarfer ansawdd uchel yn berthnasol i gyd-destun ei gyflwyno ac i'r cyfranogwyr mae'r artistiaid yn gweithio gyda nhw. Mae'r ymarfer yn un cynhwysol ac yn canolbwyntio ar alluogi rhai heb fod yn weithwyr proffesiynol i ymgysylltu gyda'r celfyddydau.

Mae Dangosyddion Allweddol yn cynnwys:

  • Mae'r rhanddeiliaid allweddol yn glir am yr hyn a gyflenwir i bwy a pham
  • Rhoddir gofod ar gyfer trafod sut i wneud y prosiect / rhaglen yn berthnasol i'r sawl sy'n cymryd rhan
  • Daw artistiaid a phartneriaid ag arbenigedd gyda nhw am y cyd-destunau y maent yn cyflenwi ynddynt
  • Mae'r rhanddeiliaid a'r tîm wedi ystyried beth mae cynhwysiant yn ei olygu iddynt yn strwythur eu prosiect / rhaglen

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page