Ysbrydoli, Herio ac Ennyn Diddordeb

Dylai ymarfer celfyddyd cyfranogol ysbrydoli ac ennyn diddordeb y sawl sy'n cymryd rhan, ond bydd hefyd yn her. Yn gyffredinol bydd artistiaid yn gweithio gyda chyfranogwyr i ddatblygu sgiliau a gwneud rhywbeth nad ydynt wedi'i brofi o'r blaen. Bydd ymarfer ansawdd uchel yn cydbwyso hwyl gyda her a bydd artistiaid yn anelu i ysbrydoli'r sawl sy'n cymryd rhan i symud tu allan i'w parth cysur eu hunain.

Mae'r dangosyddion allweddol yn cynnwys:

  • Cafodd arc y prosiect / rhaglen ei fapio a thrafodwyd y dull o drin heriau allweddol
  • Caiff amcanion allweddol y gwaith eu cyfathrebu a'u deall gan bob partner ac artist sy'n cymryd rhan
  • Daw artistiaid â'u hymarfer eu hunain i'r ystafell fel ysbrydoliaeth
  • Mae cefnogaeth ar gael i artistiaid a chyfranogwyr i fynd ar daith y prosiect / rhaglen

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page