Cwestiynau Cyffredinol

Lle gallaf gael mwy o help a chyngor ar redeg prosiect da?

Edrychwch yn ein hadran Offer ac Adnoddau. Rydym wedi creu rhai offerynnau i'ch helpu i weithio eich ffordd drwy'r egwyddorion ansawdd. Mae yna hefyd gysylltiadau yma i adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi, yn cynnwys pecyn cymorth partneriaeth a gwybodaeth ar werthusiad.

Rwyf angen mentor! Pwy all fy helpu i feddwl drwy fy syniadau?

Byddai unrhyw un o Bartneriaid ArtWorks Cymru yn hapus i'ch mentora a'ch helpu i feddwl drwy eich syniadau. Canfyddwch pwy yw'r partner agosaf atoch. Gallech hefyd gysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n cynnal cymorthfeydd rheolaidd ar gyllido ledled Cymru.

Ble medraf ddod o hyd i hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus?

Weithiau mae'n anodd canfod hyfforddiant a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus yn eich ardal leol. Os ydych yn aelod o sefydliad aelodaeth (gweler Offer ac Adnoddau), byddant yn cynnal cyfleoedd rheolaidd ar hyfforddiant a Datblygu Proffesiynol Parhaus. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghymru drwy wefan Cyngor Celfyddydau Cymru neu drwy dudalen Facebook ArtWorks Cymru.

Ble gallaf ddarllen mwy am ymchwil am ansawdd?

Os ydi gwaith ymchwil yn eich gwirioni, mae digonedd o adroddiadau ar gael ym Mharth Gwybodaeth ArtWorks Cymru a hefyd yn Llyfrgell Cyhoeddiadau ArtWorks Alliance.

Ble gallaf ddod o hyd i gyllid am y prosiectau rwyf eisiau eu cynnal?

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau celfyddydol ledled Cymru. Maent yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd ledled Cymru lle gallwch ofyn cwestiynau am sut i ariannu eich prosiect. Mae hefyd amrywiaeth o ymddiriedolaethau a sefydliadau sy'n cefnogi prosiectau celfyddydau cyfranogol. Gallech hefyd ymchwilio cyllid tyrfa i'ch prosiect yn defnyddio Crowdfunder neu Kickstarter.