Geirfa
Rhestr o'r holl dermau a ddefnyddiwyd yn yr adnodd.
Amcanion
Diffiniad: Y gweithgareddau neu gamau a gynhelir i gyflawni eich amcanion
Ansawdd
Diffiniad: Safon rhywbeth o'i fesur yn erbyn pethau eraill o fath tebyg; graddfa rhagoriaeth rhywbeth
Bwriad
Diffiniad: Yr hyn mae'r prosiect neu raglen yn bwriadu ei gyflenwi
Celfyddydau Cyfranogol
Diffiniad: Unrhyw brosiectau neu raglenni celfyddydol ar gyfer cyfranogwyr heb fod yn broffesiynol a gaiff eu harwain neu eu cynnal gan artistiaid proffesiynol
Cyfranogydd
Diffiniad: Y person sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau cyfranogol
Cynnydd
Diffiniad: Y newid y mae gweithgaredd celfyddydau cyfranogol yn ei ysgogi mewn cyfranogydd drwy gymryd rhan egnïol yn y prosiect
Dangosyddion
Diffiniad: Gwybodaeth wedi'i diffinio'n dda sy'n dangos sut mae prosiect neu raglen yn perfformio
Datblygiad Proffesiynol
Diffiniad: Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a gafwyd tu hwnt i hyfforddiant dechreuol yn anffurfiol neu'n ffurfiol wrth i chi weithio
Deilliannau
Diffiniad: Y newidiadau, buddion, dysgu neu effeithiau sy'n digwydd fel canlyniad i'ch gwaith
Gofod
Diffiniad: Yr ardal ddiffiniedig neu'r lle y cyflwynir prosiect neu raglen celfyddydau cyfranogol ynddo
Gwaddol
Diffiniad: Buddion a newidiadau hirdymor sy'n digwydd fel canlyniad i'ch gwaith
Gweithgaredd
Diffiniad: Yr hyn sy'n digwydd yn y prosiect neu raglen
Nodau
Diffiniad: Y newidiadau y ceisiwch eu gwneud
Phobl
Diffiniad: Pwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect neu raglen
Prosiect
Diffiniad: Gweithgaredd celfyddydau cyfranogol o fewn cyfnod penodol
Rhaglen
Diffiniad: Gweithgaredd celfyddydau cyfranogol parhaus
Rhanddeiliad
Diffiniad: Unrhyw un sydd â diddordeb neu gonsyrn mewn prosiect neu raglen celfyddydau cyfranogol
Taith
Diffiniad: Log teithio gweithgaredd celfyddydau cyfranogol
Ymarfer Celfyddydol
Diffiniad: Ymagwedd artist at eu gwaith