Wedi’i gynllunio a’i werthuso ar y cyd, ac yn ddiogel

 

Mae angen i brosiect da gael ei gynllunio'n ofalus. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth o swyddi pawb sy'n ymwneud â'r prosiect. Mae angen i waith gael ei fonitro a'i werthuso, gyda golwg ar wella'r hyn a wnawn yn barhaus. Fodd bynnag, nid dim ond ar ddiwedd prosiect y dylai gwerthuso ddigwydd; mae angen iddo gael ei gynnwys ar hyd y broses. Mae angen cynnal asesiad risg ar brosiectau a dylent fod yn ddiogel i bawb sy'n cymryd rhan.

Mae dangosyddion ansawdd allweddol yn cynnwys:

  • Yr holl gyfranddeiliaid yn glir am eu cyfrifoldebau o fewn y prosiect
  • Clustnodwyd amser yn y rhaglen ar gyfer cynllunio a gwerthuso
  • Mae artistiaid yn ymwneud â'r cynllunio o gam cynnar
  • Mae asesiadau risg priodol a pholisïau diogelu ar waith
  • Mae'n glir pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page