Mewn Lleoliad Addas a bod ag Adnoddau Addas

Mae angen amrywiaeth o adnoddau ar gyfer prosiectau cyfranogol. Y rhai allweddol yw:

  • Amser
  • Gofod
  • Stwff
  • Staff

Mae angen i'r adnoddau gael eu trafod rhwng pawb sy'n cymryd rhan - y rhai tu hwnt i'r ystafell (cyllidwyr), y rhai tu allan i'r ystafell (rheolwyr prosiect neu gomisiynwyr) a'r rhai yn yr ystafell (yr artistiaid a'r cyfranogwyr). Weithiau mae'r adnoddau yn llai na delfrydol ar gyfer prosiect ardderchog. Bydd hyn yn cael effaith ar yr ansawdd terfynol.

Mae dangosyddion ansawdd allweddol yn cynnwys:

  • Cafodd y gofod a ddefnyddir ei ystyried yn ofalus ac mae'n addas i'r diben
  • Mae'r rhaglen yn rhoi ystyriaeth i anghenion y cyfranogwyr ac yn rhoi digon amser i artistiaid gyflawni'r hyn sydd ar y gweill
  • Mae cyllideb wedi ei rhoi yn ei le ar gyfer unrhyw adnoddau sydd eu hangen
  • Caiff amser ei gynnwys ar gyfer paratoi a chynllunio
  • Mae'r staff priodol yn eu lle gan y prosiect neu raglen

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page