Pwrpasol, Egnïol, Ymarferol a Myfyriol

Mae prosiectau celfyddydau cyfranogol yn brosiectau gwneud. Mae yna broses yn cael ei ddilyn, ac yn aml, mae yna ganlyniad pendant y mae'r artist a'r cyfranogwyr yn gweithio tuag ato. Yr artist fydd yn arwain y gwaith, ond mae cyfranogwyr yn cymryd rhan egnïol, a byddant yn gwneud, perfformio, crefftio a chreu. Bydd y broses hefyd yn cynnig cyfleoedd i'r holl randdeiliaid fyfyrio ar yr hyn sy'n digwydd yn y prosiect.

Mae dangosyddion ansawdd allweddol yn cynnwys:

  • Caiff gweithgaredd ei gynllunio'n dda ac fe fydd yn symud ar gyflymder da
  • Mae taith a gaiff ei rhannu o fewn y gweithgaredd, a all arwain at ganlyniad
  • Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan weithgar yn yr ymarfer celf a gaiff ei gyflwyno
  • Cynigir cyfleoedd i'r holl randdeiliaid sy'n cymryd rhan i fyfyrio ar weithgaredd a'i gynnydd
  • Caiff creu ei ddathlu a'i werthfawrogi

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page