Canolbwyntio ar y Sawl Sy'n Cymryd Rhan

Mae'r sawl sy'n cymryd rhan yn ganolog i ymarfer celfyddydau cyfranogol. Maent yn amrywiol ac unigol bydd angen i bob prosiect feddwl o'r newydd am anghenion yr unigolion a grwpiau penodol sy'n cymryd rhan. Os yw anghenion y bobl 'tu hwnt' neu 'tu allan' i'r ystafell yn gwrthdaro gydag anghenion y sawl sy'n cymryd rhan, yna mae angen trafodaeth bellach i gadarnhau fod pawb sy'n cymryd rhan yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud i gefnogi'r prosiect. Meddyliwch am y prosiect o safbwynt y cyfranogwyr a sut bydd yr prosiect yn edrych iddyn nhw os yw'n brosiect da.

Mae'r dangosyddion ansawdd allweddol yn cynnwys:

  • Cynlluniwyd y prosiect neu raglen o amgylch anghenion y cyfranogwyr
  • Rydych wedi cynnwys cyfranogwyr wrth ddylunio a chynllunio'r prosiect neu raglen
  • Mae'n glir i bob rhanddeiliad sut bydd cyfranogwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith
  • Cafodd anghenion unrhyw gyfranogydd penodol eu trin e.e. gofynion diet neu fynediad

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page