Ffocws ar Gynnydd y Cyfranogwyr

Mae prosiectau celfyddydau cyfranogol yn galluogi cyfranogwyr i adeiladu sgiliau a phrofiad. Mae pob proses a gynhelir yn canolbwyntio ar ddatblygiad. Gall hyn ddigwydd o fewn un sesiwn neu un prosiect a rhaglen. Ond yn aml mae prosiectau yn gamau cychwynol i gyfranogwyr, a gallant arwain at brofiad arall. Mae cyllidwyr yn aml yn sôn am waddol y gwaith a wnaethpwyd, ac mae ystyriaeth o gynnydd cyfranogwyr yn gwneud prosiect yn fwy ystyrlon i bawb sy'n cymryd rhan.

Mae dangosyddion ansawdd allweddol yn cynnwys:

  • Cynllun clir yn ei le ar gyfer cynnydd cyfranogwyr o fewn prosiect rhaglen
  • Caiff cynnydd cyfranogwyr ei amlygu a'i ddathlu ym mhob sesiwn
  • Trafodwyd gwaddol posibl y gweithgaredd ar gam cynnar
  • Caiff cyfranogwyr eu cyfeirio at brosiectau neu raglenni eraill unwaith y bydd y gweithgaredd drosodd

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page