Polisi preifatrwydd

Mae'r polisi preifatrwydd yma'n nodi sut mae ArtWorks Cymru'n defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i ArtWorks Cymru pan ddefnyddiwch y wefan yma.

Mae ArtWorks Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y caiff eich preifatrwydd ei ddiogelu. Os gofynnwn i chi am wybodaeth neilltuol y gallwch wybod pwy ydych oddi wrthi pan fyddwch yn defnyddio'r wefan, yna gallwch fod yn sicr mai dim ond yn unol â'r datganiad preifatrwydd yma y caiff ei ddefnyddio.

Gall ArtWorks Cymru newid y polisi o bryd i'w gilydd drwy ddiweddaru'r dudalen yma. Dylech wirio'r dudalen yma o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae'r polisi yn weithredol o 1 Hydref 2015.

Yr hyn a gasglwn

Gallwn gasglu'r wybodaeth ddilynol:

  • enw a theitl swydd

  • gwybodaeth gyswllt yn cynnwys cyfeiriad e-bost

  • gwybodaeth ddemograffig fel cod post, dewisiadau a diddordebau

  • gwybodaeth arall sy'n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion

Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth a gasglwn

Rydym angen yr wybodaeth yma i ddeall eich anghenion a rhoi gwasanaeth gwell i chi ac yn neilltuol am y rhesymau dilynol:

  • Cadw cofnodion mewnol.

  • Gallwn ddefnyddio'r wybodaeth i wella ein cynnyrch a'n gwasanaethau.

  • Gallwn anfon negeseuon e-bost hyrwyddo am gynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall atoch o bryd i'w gilydd y credwn fydd o ddiddordeb i chi gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a gafwyd gennych.

  • O bryd i'w gilydd, gallwn hefyd ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi am ddibenion ymchwil marchnad. Gallwn gysylltu â chi drwy e-bost, ffôn, ffacs neu bost. Gallwn ddefnyddio'r wybodaeth i deilwra'r wefan yn ôl eich diddordebau.

Diogelwch

Mae gennym ymrwymiad i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, mae gennym weithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas ar waith i ddiogelu a sicrhau'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Dolenni i wefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch tra byddwn yn ymweld â safleoedd o'r fath ac ni chaiff safleoedd o'r fath eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd yma. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n weithredol i'r wefan dan sylw.

Rheoli eich gwefan bersonol

Gallwch ddewis cyfyngu casglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd dilynol:

  • pryd bynnag y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, edrychwch am y blwch y gallwch ei glicio na ddymunwch i'r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un ar gyfer dibenion marchnata uniongyrchol

  • os ydych wedi cytuno'n flaenorol i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer dibenion marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw amser drwy ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom yn info@artworkscymru.co.uk

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu lesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti heb gael caniatâd gennych neu ei bod yn ofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny. Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd parti y credwn all fod o ddiddordeb i chi os dywedwch wrthym eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd.

Os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym arnoch yn anghywir neu anghyflawn, ysgrifennwch neu anfon e-bost atom cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda, yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn brydlon wrth gywiro unrhyw wybodaeth y canfyddir ei bod yn anghywir.