Yn dilyn sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â sut allai’r sector cyfranogol ddarparu gweithgareddau’n ddiogel ac yn effeithiol yn sgil Covid-19, trefnwyd cyfres o sesiynau dros Zoom gan bartneriaid ar draws y sector. Roedd y sgyrsiau’n gyfle i drafod effaith y cyfnodau clo ar ein gwaith ac i gydweithio mewn modd creadigol i feddwl beth allai ddod nesaf.
Ceir nodiadau o’r cyfarfodydd islaw.
Cofnod o’r hyn a ddysgwyd
Roedd y cyfarfodydd yma’n archwilio sut i gadw cofnod o’r hyn roedd sefydliadau ac artistiaid wedi’i ddysgu wrth ddarparu prosiectau yn ystod y cyfnod hwn. Trafodwyd yr hyn oedd yn gweithio’n dda, beth a ddysgwyd a sut wnaethom addasu ein ffyrdd o weithio.
28 Mai 2020 | Gweithio gyda phobl hŷn
3 Mehefin 2020 | Dawns Gymunedol
8 Mehefin 2020 | Celfyddydau Cymunedol
9 Mehefin 2020 | Celfyddydau Ieuenctid
21 Gorffennaf 2020 | Celfyddydau ac Iechyd
Tu hwnt i’r cyfnodau clo
Roedd y sesiynau yma’n edrych ar beth fyddai’n digwydd nesaf, ar ôl y cyfnodau clo. Trafodwyd beth allai ddigwydd yn y dyfodol, pa elfennau o’n gwaith ar-lein fyddai’n parhau i fod o ddefnydd, a sut i ymdopi gyda dyfodol ansicr.
10 Mehefin 2020 | Dawns Gymunedol
12 Mehefin 2020 | Celfyddydau Cyfranogol
18 Mehefin 2020 | Celfyddydau Cymunedol
2 Gorffennaf 2020 | Gweithio gyda phobl hŷn
16 Gorffennaf 2020 | Celfyddydau Gwledig (nodiadau i ddilyn)