Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru

Roedd Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn gynllun prawf i gefnogi artistiaid yng Nghymru i ddatblygu ac i ehangu eu hymarfer a’u llwybrau gyrfa.

Fe’i hysbrydolwyd gan raglen datblygu artistiaid cyfranogol Theatr y New Victory yn Efrog Newydd, ac fe’i datblygwyd gyda chefnogaeth eu Cyfarwyddwr Addysg, Courtney Boddie.

Yn dilyn proses recriwtio yng Ngorffennaf 2019, dechreuodd chwe artist-hyfforddwr ar y rhaglen yng Nghymru:

Jon Dafydd-Kidd mewn partneriaeth â Glan yr Afon, Casnewydd
Martin Daws mewn partneriaeth â Cerdd Gymunedol Cymru
Pauline Down mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Rabab Ghazoul mewn partneriaeth â Gentle Radical
Bethan Page mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth
Clare E Potter mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru

Cynhaliwyd penwythnos preswyl yn Nhachwedd 2019 gyda’r chwe artist-hyfforddwr i ddechrau ar y Gwaith o gynllunio’r rhaglen. Roedd Rhian Hutchings, cyn-Reolwr Partneriaeth ArtWorks Cymru, a Courtney Boddie yno i hwyluso’r sgyrsiau ac roedd yn gyfle i glywed mwy am raglen datblygu artistiaid Theatr New Victory, ystyried eu gwerthoedd craidd a’u llwybrau gyrfa hyd yma ac i drafod sut allai rhaglen i artistiaid yng Nghymru edrych.

Yn dilyn y penwythnos preswyl ac ychydig o amser cynllunio, dyma’r artistiaid-hyfforddwr a’r sefydliadau’n mynd ati i ddewis yr artistiaid a fyddai’n rhan o’r rhaglen. Gweithiodd pob artist-hyfforddai gyda rhwng 3-5 artist.
Roedd y llwybr hyfforddi yn canolbwyntio ar ddeialog rhwng yr artist-hyfforddwr a’r artist ble fyddai’r artist yn cael cyfle i archwilio’u hymarfer, eu dyheadau, anghenion a’u potensial. Roedd sesiynau’n cynnwys yr elfennau canlynol:

• Mentora gan yr artist-hyfforddwr
• Diffinio gwerthoedd craidd ymarfer cyfranogol yr artist
• Archwilio taith yr artist hyd yma fel artist cyfranogol, gan ddefnyddio Adnodd Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru
• Archwilio’r camau nesaf ar gyfer ymarfer yr artist

Derbyniodd pob artist hyd at 5 sesiwn hyfforddi gyda’i artist-hyfforddwr, a chyfarfu sawl un fel grŵp ar ddechrau ac ar ddiwedd y broses yn ogystal.

I glywed mwy am y cynllun peilot, gwyliwch y fideo yma:

 

Mae partneriaid ArtWorks Cymru’n trafod sut i ddatblygu’r rhaglen i gefnogi rhagor o artistiaid ledled Cymru.