Ymchwil Egwyddorion Ansawdd | Quality Principles Research

Date: 06/15/2021 | Category: News, Publications, Quality, Research, Featured


Yn ystod 2020, cyfrannodd nifer o bartneriaid ArtWorks Cymru i brosiect ymchwil wedi’i arwain gan Rachel Blanche, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Celfyddydau a Pholisi Diwylliannol ym Mhrifysgol y Frenhines Margaret, Caeredin, yn edrych ar egwyddorion ansawdd o fewn y celfyddydau cyfranogol.

Roedd yr arolwg yng Nghymru yn ceisio casglu manylion am sut y mae ymarferwyr wedi defnyddio’r dull ansawdd sy’n ganolog i becyn offer yr Egwyddorion Ansawdd, a ble a sut y maent yn gweld gwerth ynddo ar gyfer eu hymarfer.

Cynhyrchwyd crynodeb o ganfyddiadau allweddol yr ymchwil gan Rachel Blanche, sy’n edrych yn benodol ar:

• Ymarfer Sefydliadol
• Hyfforddiant a Datblygu yn y sector
• Gwaith Ymgysylltu Cymunedol

Cyflwyna’r adroddiad ddata diddorol dros ben ar sut mae sefydliadau ac artistiaid yn defnyddio’r Egwyddorion Ansawdd ac mae’n dangos gwerth y canllaw a’r pecyn offer. Mae’n amlwg fod gan yr Egwyddorion Ansawdd dipyn i’w gynnig i nifer o feysydd gan gynnwys:

• Cadarnhau arferion sefydliadol mewnol, gan gynnwys cynllunio a gwerthuso
• Cynorthwyo gyda gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig cynllunio ar y cyd a chyfathrebu
• Hyfforddi staff newydd, gwirfoddolwyr ac artistiaid
• Gwella ansawdd yr hyn y mae’r cyfranogwyr yn ei brofi

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.

Cynhaliwyd yr arolwg yng Nghymru fel rhan o astudiaeth fwy yn cynnwys yr Alban a Phortiwgal lle mae ymarferwyr mewn celfyddydau cyfranogol wedi mabwysiadu dull ansawdd tebyg i’r Egwyddorion Ansawdd yng Nghymru. Am adroddiad llawn yn rhoi manylion y canfyddiadau ar draws y tair gwlad, gweler: A Holistic Approach for Quality In Participatory Arts: Impacts On Practice Experienced By Artists In Scotland, Wales And Portugal, QMU Working Paper 2020/3, cyhoeddwyd yn Rhagfyr 2020 gan Rachel Blanche.

In 2020, ArtWorks Cymru partners contributed to a research project led by Rachel Blanche, Senior Lecturer in Arts Management and Cultural Policy at Queen Margaret University, Edinburgh, looking at quality principles in the participatory arts.

The survey of practitioners in Wales sought to capture details of how they have applied the quality approach at the heart of the Quality Principles toolkit, and where and how they see value in it for their practice.

Rachel Blanche has prepared a summary of key findings from this research which looks specifically at:

• Organisational Practice
• Training and Development in the sector
• Community engagement work

The report presents very interesting data on how organisations and artists have been using the Quality Principles and shows the value of this guide and toolkit. It is clear that the Quality Principles have added value to many areas of work including:

• Consolidating internal organisational practices, including planning and evaluation
• Assisting with partnership working for joint planning and communication
• Training for new staff, volunteers and artists
• Enhancing the quality of the experience for the participants

Click here to read the full report.

The survey in Wales was conducted as part of a larger study including Scotland and Portugal where practitioners in participatory arts have adopted a quality approach similar to the Quality Principles in Wales. For a full report detailing findings across all three countries, please see: A Holistic Approach for Quality In Participatory Arts: Impacts On Practice Experienced By Artists In Scotland, Wales And Portugal, QMU Working Paper 2020/3, published in December 2020 by Rachel Blanche.