Cronfa Sbarduno

Mae ArtWorks Cymru wedi gwahodd artistiaid, mudiadau a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch i gyflwyno cynigion fydd yn rhannu ac adeiladu ar arfer da ac a allai gynhyrchu datrysiadau gwaith newydd a all 'newid y sgwrs' o amgylch celfyddydau cyfranogol yng Nghymru.

Rydym eisiau ysgogi partneriaethau newydd a phresennol i gydweithio i ymchwilio rhai o'r materion allweddol sy'n ganolog i raglen ArtWorks Cymru:

  • rhwydwaith hyfforddiant ar gyfer artistiaid cyfranogol ledled Cymru
  • cysylltiadau rhwng artistiaid, sefydliadau celf ac addysg bellach ac addysg uwch
  • dulliau blaengar ar gyfer cyfnewid ymarfer
  • cysylltiadau rhwng comisiynwyr tu allan i'r celfyddydau ac artistiaid
  • dulliau digidol ar gyfer tyfu cymuned ymarfer yng Nghymru
  • cysylltiadau ar draws dulliau celf, sectorau, gosodiadau a chamau gyrfa

Cynhaliwyd Cronfa Sbarduno Un rhwng mis Ebrill 2015 a mis Tachwedd 2015 ac roedd y pedwar prosiect fel sy'n dilyn:

  • FIO sy'n ymchwilio cynnig hyfforddiant posibl i hwyluswyr celf ieuenctid ar y cyd â Mess up the Mess a chwmni theatr Taking Flight.
  • Addo a Phrifysgol Glyndŵr sy'n ymchwilio gweithio aml-bartner a datblygu set o offerynnau arfer gorau a all gefnogi artistiaid, comisiynwyr a sefydliadau celf wrth iddynt ddatblygu gwaith gyda'i gilydd.
  • Rhwydwaith Celf a Llesiant De Orllewin a Chanolbarth Cymru sy'n creu pecyn cymorth i artistiaid sy'n cyflwyno gwaith mewn gosodiadau ysbyty.
  • Dr Natasha Mayo a Melaneia Warwick sy'n mapio patrymau newydd ar gyfer ymarfer cyfranogol drwy gyfres o astudiaethau achos ac yn ymchwilio sut y gallant ddylanwadu ar y cwricwlwm ar lefel sefydliadau addysg uwch.

Fe wnaethom gyfweld ag arweinwyr Cronfa Sbarduno Un ym mis Rhagfyr 2015, ac mae'r hyn y gwnaethant ei ddweud i'w weld yn ein Rhaglen Cronfa Sbarduno.

Mae Cronfa Sbarduno Dau yn rhedeg o fis Mawrth 2016 i fis Hydref 2016, a dewiswyd y prosiectau dilynol:
• Sefydlu Dull Gweithredu Creadigol mewn Cynlluniau Gofal - dan arweiniad Valley and Vale mewn cysylltiad â Chyngor Casnewydd
• Ymchwiliad i Gomisiynu Diwylliannol dan arweiniad David Jones Associates
• Cyfnewid Ymarfer rhwng Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru a Making Music Changing Lives
• Galw Ponty - ymyriad celfyddydau ym Mhontypridd dan arweiniad Artis Communty Cymuned mewn cysylltiad â Phrifysgol De Cymru ac Amgueddfa Pontypridd
• Lledaenu pecyn cymorth Artistiaid mewn Ysbytai dan arweiniad Rhwydwaith Celf a Llesiant De a Gorllewin Cymru