Fel rhan o Gynllun Arbennig Sefydliad Paul Hamlyn, cafodd nifer fawr o adroddiadau ymchwil eu creu ac mae dolenni i'r adroddiadau hyn yn ein Canolfan Gwybodaeth. Rydym hefyd yn cynnal dau brosiect ymchwil pellach mewn cysylltiad gyda'r partneriaid islaw.
Mae ArtWorks Cymru yn gweithio gyda Cognis i gynnal ymchwil bellach. Ym mis Gorffennaf 2015 fe wnaethant arwain Charette Ymchwil yn dadlennu'r materion allweddol yr oedd partneriaeth ArtWorks Cymru yn dymuno eu hymchwilio.
Ar ôl edrych yn agos ar yr adborth o'r Charette, mae Tîm Ymchwil Cognis yn cynnig casglu astudiaethau achos i drin y cwestiwn ymchwil dilynol: Pam fod cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau?
Mae ArtWorks Cymru yn awr yn gwahodd sefydliadau ac artistiaid i gymryd rhan yng nghamau nesaf y prosiect: Astudiaethau Achos.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, lawnlwythwch ein Galwad i Gyfranogwyr yma:
ARTWORKS CYMRU CALL FOR RESEARCH AND EVALUATION CASE STUDY PARTICIPANTS
ARTWORKS CYMRU YN GALW AM GYFRANOGWYR AR GYFER ASTUDIAETHAU ACHOS YMCHWIL A GWERTHUSO
Y dyddiad cau am ddatganiadau diddordeb yw 16 Hydref 2015 gydag astudiaethau yn dechrau cyn gynted ag sy'n bosibl wedyn.
Mae ArtWorks Cymru hefyd yn cymryd ym mhrosiect Accelerator y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol mewn cysylltiad â Dr David Studdert, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio sut i greu prosiectau cymunedol a ddyluniwyd/grëwyd ar y cyd, a bydd yn seiliedig ym Mhowys, gan weithio gyda Arts Connection a Dawns Powys Dance.