Egwyddorion Ansawdd

Rhedodd rhaglen ddiwethaf ArtWorks Cymru rhwng 2015 - 2017 ac un llinyn o'r rhaglen oedd datblygu Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru. Cawsant eu datblygu ar y cyd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru fel dull i helpu'r sector celfyddydau cyfranogol i gael trafodaethau da am ansawdd eu gwaith. Mae'r Egwyddorion Ansawdd yn cynnwys 9 egwyddor yn seiliedig mewn tri maes - Bwriad, Gweithgaredd a Phobl. Mae pecyn cymorth digidol a llyfryn PDF ar gael ar ein gwefan: https://artworks.cymru/egwyddorion-ansawdd

GRŴP ASTUDIAETHAU ACHOS EGWYDDORION ANSAWDD

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ArtWorks Cymru wedi ymestyn hyfforddiant Egwyddorion Ansawdd ac mae hyn wedi galluogi rhai sefydliadau i ddechrau defnyddio'r Egwyddorion Ansawdd. Fodd bynnag, hoffem fynd ymhellach a dod ag amrywiaeth o sefydliadau ac artistiaid ynghyd i lunio Grŵp Astudiaethau Achos.

Mae ArtWorks Cymru yn awr yn gwahodd artistiaid, mudiadau a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch i'w cyflwyno eu hunain i fod yn rhan o Grŵp Astudiaethau Achos Egwyddorion Ansawdd.

BRÎFF GRŴP ASTUDIAETHAU ACHOS EGWYDDORION ANSAWDD

Gwnewch cais erbyn 5pm ddydd Iau 18 Ebrill 2019 fan bellaf os gwelwch yn dda.

Byddwn yn cadarnhau cyfranogiad erbyn dydd Llun 29 Ebrill 2019.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y brîff, cysylltwch os gwelwch yn dda â Rhian Hutchings, Rheolwr Partneriaeth ArtWorks Cymru yn artworkscymru@artsactive.org.uk .