Rhannu Perchnogaeth ac Chyfrifoldeb

Mae gwaith ansawdd da angen cefnogaeth pawb sy'n cymryd rhan. Gall fod ystod eang o bobl yn ymwneud â phrosiect neu raglen: y rhai sydd yn yr ystafell (comisiynydd, rheolwr prosiect, gweithwyr gofal, ac yn y blaen), 'tu allan i'r ystafell' (comisiynydd, rheolwr prosiect, gweithwyr achos ac yn y blaen) a 'thu hwnt i'r ystafell' (y cyllidwyr, cyfarwyddwr cwmni, ac yn y blaen). Mae ganddynt i gyd ddylanwad dros y gwaith a'i ganlyniadau.

Caiff perchnogaeth prosiectau celfyddydau cyfranogol ei rannu’n eang ac mae cyfathrebu a chefnogaeth clir rhwng rhanddeiliaid yn helpu i bawb ymddiried yn eu gilydd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Mae dangosyddion ansawdd allweddol yn cynnwys:

  • Pob rhanddeiliad yn deall eu sywddi a'u cyfrifoldebau
  • Partneriaid yn cymryd rhan weithgar ac yn ymwneud â chynllunio
  • Caiff artistiaid eu cefnogi'n dda i ddatblygu ac amrywio gweithgaredd wrth iddynt gyflenwi
  • Pob rhanddeiliad yn hyrwyddo a gwerthfawrogi’r gweithgaredd a'i ganlyniadau
  • Cafodd perchnogaeth y gweithgaredd a'i ganlyniadau ei drafod ac mae'n glir

Lle gwag - nodwch y dangosyddion allweddol ar gyfer eich prosiect / rhaglen wrth ystyried yr egwyddor yma neu ddefnyddio'r ddalen waith i wneud map personol:

Email this to me | Print this page