Pwy Sy'n Cymryd Rhan?

Mae llawer o wahanol bobl yn cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni celfyddydau cyfranogol. Canfyddwch yma pwy sy'n gwneud beth.

Yn Yr Ystafell

Artistiaid yw arweinwyr prosiectau celfyddydau cyfranogol. Mae artistiaid yn cael dylanwad uniongyrchol ar yr hyn sy'n digwydd yn yr ystafell a'r profiad o brosiect. Maent yn dod â'u dull celf, gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i'r prosiect. Gallant hefyd fod yn rheoli'r prosiect yn ogystal â chyflenwi'r gwaith. Maent weithiau hefyd yn gyfarwyddwr cwmni a'r comisiynydd!

Mae cyfranogwyr yng nghanol unrhyw brosiect celfyddydau cyfranogol. Gwnânt brosiectau am lawer o wahanol resymau a chanfod eu ffordd i'r ystafell o wahanol leoedd. Mae eu cyfraniadau a'u penderfyniadau yn yr ystafell yn gwneud i'r prosiect ddigwydd.

Gall Gofalwyr, Athrawon neu Rieni fod yn yr ystafell gyda'r cyfranogydd wrth iddynt gymryd rhan yn y prosiect celfyddydau cyfranogol. Mae ganddynt ddylanwad dros ddeilliannau'r prosiect drwy'r gefnogaeth ac anogaeth a roddant i'r cyfranogydd.

Yn Agos At Yr Ystafell

Y comisiynydd sy'n gyrru'r amcanion allweddol, yn gosod y gyllideb a'r amserlen, yn aml yn rhoi gofod ac adnoddau ac yn cyfathrebu'r prosiect i randdeiliaid eraill. Gallent fod yn sefydliad celfyddydau, grŵp gwirfoddol neu'n sefydliad heb fod yn un celfyddydol.

Gall Cynhyrchydd neu Reolwr Prosiect gael eu cyflogi gan y comisiynydd i oruchwylio'r gwaith. Gallent fod yn yr ystafell weithiau ond byddant hefyd tu allan yn trefnu adnoddau, gofodau, rheoli'r gyllideb ac yn cyfathrebu'r prosiect i bartneriaid eraill.

Bydd staff eraill yn y lleoliad yn ymyl yr ystafell hefyd. Efallai na fyddant yn gwybod am y prosiect neu pam ei fod yn digwydd, a gallai fod yn bwysig dweud wrthynt am y gwaith a chael eu cefnogaeth.

Y Pellaf O'r Ystafell

Yn aml, cyllidwyr, aelodau bwrdd a chyfarwyddwyr cwmni yw'r pellaf o'r ystafell. Mae ganddynt ddylanwad ar strategaeth, arian a pholisi. Maent angen dealltwriaeth dda o'r hyn yw'r gwaith a pham ei fod yn digwydd, gan fod ganddynt yn aml ddylanwad ar sut y caiff ei weld a'i werthfawrogi.