Dechreuodd y taith Log teithio gweithgaredd celfyddydau cyfranogol i greu'r egwyddorion yma gyda thrafodaeth fawr yng Nghaerfyrddin. Fe wnaethom ofyn llawer o gwestiynau - beth mae ' ansawdd Safon rhywbeth o'i fesur yn erbyn pethau eraill o fath tebyg; graddfa rhagoriaeth rhywbeth ' yn ei olygu pan fyddwch yn creu gwaith gyda phobl Pwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect neu raglen ? Sut fyddwn ni'n gwybod pan fyddwn yn gweld / teimlo / clywed ansawdd? Beth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau ansawdd? Nid oedd gennym mewn gwirionedd fframwaith i'n helpu i strwythuro ein sgwrs.
Gofynnodd Cyngor Celfyddydau Cymru i ni greu Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru er mwyn symud y sgwrs ymlaen. Byddant yn rhoi ffordd i siarad am ansawdd y gall pawb sy'n gwneud celfyddydau cyfranogol Unrhyw brosiectau neu raglenni celfyddydol ar gyfer cyfranogwyr heb fod yn broffesiynol a gaiff eu harwain neu eu cynnal gan artistiaid proffesiynol ei defnyddio. Disgwyliwn i artistiaid a sefydliadau celf fod y prif rhanddeiliad Unrhyw un sydd â diddordeb neu gonsyrn mewn prosiect neu raglen celfyddydau cyfranogol sy'n defnyddio'r egwyddorion ansawdd, ond gobeithiwn y byddwch yn eu rhannu gyda'ch partneriaid ac yn gwneud defnydd ymarferol ohonynt. Cawsant eu cynllunio i'ch helpu i feddwl am sut i wneud eich gwaith da yn well byth, i ddangos gwerth yr ymarfer yma, ac i wneud yn siŵr fod cyfranogydd Y person sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau cyfranogol yn cael y profiadau gorau posibl.
Gwyliwch y fideo i gael cyflwyniad i'r Egwyddorion Ansawdd:
Sut i ddefnyddio'r adnodd yma
Mae Egwyddorion Ansawdd ArtWorks Cymru wedi eu grwpio yn dri maes - bwriad Yr hyn mae'r prosiect neu raglen yn bwriadu ei gyflenwi , gweithgaredd Yr hyn sy'n digwydd yn y prosiect neu raglen , a phobl Pwy sy'n cymryd rhan yn y prosiect neu raglen . Cliciwch ar ardal i gael mwy o fanylion.
Hofrannwch i weld y maes egwyddorion a chlicio i gael mwy o fanylion.